Thomas Pennant 1726 - 1798

Bywgraffiad

images

Naturiaethwr - Hynafiaethydd – Teithiwr

pennant coat of arms

Ganwyd Thomas Pennant ar Fehefin 14, 1726. Yr oedd yn fab i David ac Arabella Pennant. Ei gartref oedd Plas Downing, Chwitffordd.  Gwaetha’r modd aeth y tŷ ar dan yn 1922  a’i adael yn adfail. Dymchwelwyd hwnnw wedyn rai blynyddoedd yn ôl. Ynghynt bu i’w deulu fyw ym Mychton,  Chwitffordd.

Arfbais Teulu Pennant


Daw’r rhan helaeth o’r wybodaeth sydd ar gael am Thomas Pennant o’i waith llenyddol a gyhoeddwyd ym 1793.  Dywed sut y bu iddo gael diddordeb am y tro cyntaf mewn adaryddiaeth a natur yn 12 oed, ar ôl iddo gael llyfr  am adar gan ei berthynas John Salusbury Bachygraig, Tremeirchion.

Yn ôl pob tebyg cafodd addysg gynnar mewn ysgol yn Wrecsam a hyfforddiant  pellach yn Llundain, cyn mynd i Goleg y Frenhines, Rhydychen, yn 18 oed. Er iddo dreulio rhai blynyddoedd yn Rhydychen, gadawodd heb radd.  Ond yn ystod y cyfnod hwn dechreuodd ymddiddori mewn Achyddiaeth.  Yn ystod y blynyddoedd olynol bu’n teithio. Aeth i Iwerddon, Ynys Manaw,  Yr Alban gan gynnwys Ynysoedd Heledd i dir mawr Cyfandir Ewrop a sawl rhan o Gymru a Lloegr.


Roedd Thomas Pennant yn ysgrifennwr toreithiog. Cyhoeddwyd cyfrol gyntaf ei deithiau drwy Gymru (Tours in Wales) ym 1778 a ’r ail ym 1791. Yn rhyfedd ni chyhoeddwyd ei gofnod o’i daith i’r  Cyfandir tan  1948.  Cyhoeddwyd ei waith ar Sŵoleg  British  Zoology mewn pedair cyfrol rhwng 1761 a 1777.  Ysgrifennodd hefyd am Sŵoleg India a Rhanbarth yr Arctig.  Ei waith llenyddol mwyaf uchelgeisiol Outlines of the Globe mewn dwy gyfrol ar hugain (llawysgrif). Dim ond pedair o’r cyfrolau hyn a gyhoeddwyd erioed.  Mae’r ddwy gyfrol ar hugain bellach yn cael eu cadw yn yr Amgueddfa Forwrol Genedlaethol, Greenwich.
Ddwy flynedd cyn iddo farw cwblhaodd The History of the Parishes of Whitford and Holywell. Ar anogaeth yr arbenigwr ar Pennant, Dr. R. Paul Evans (un o Dreffynnon yn wreiddiol),  cyhoeddwyd cyfrol ffacsimili o’r llyfr gan Gyngor Sir Clwyd ym 1988. Mae’r gyfrol hon yn cynnwys cyflwyniad ardderchog gan Dr. Evans.

 

 

Yn ystod ei fywyd derbyniodd Thomas Pennant  sawl anrhydedd a chydnabyddiaeth o Brydain a thu hwnt. Ym 1754 etholwyd ef yn Gymrawd Cymdeithas yr Hynafiaethau. - Cafodd anrhydeddau o Norwy, Sweden ac America.  Ym 1771 cafodd radd fygedol Ll.D. gan Brifysgol Rhydychen. Cafodd nifer o anrhydeddau o’r Alban, gan gynnwys rhyddfraint dinas Caeredin.

Thomas Pennant
Thomas Pennant


Moses Griffith

Ni fu Thomas Pennant erioed heb gydnabod ei ddyled i ddau gyfaill mawr - John Lloyd (1733 - 93) Rheithor Caerwys, a ddeuai gydag ef ar bob un o’i deithiau drwy Gymru. (”To his great skill in the language and antiquities of our country I am myself much indebted”); a
Moses Griffith, un o Fryncroes, Llŷn, ei was ffyddlon a deithiai gydag ef i bron bob man gan wneud y darluniau ar gyfer ei lyfrau.

Moses Griffith

 

Torrodd iechyd Thomas Pennant ym 1793.  Bu farw ym mis  Rhagfyr 1798 yn 72 oed. Fe’I claddwyd ger yr allor yn Eglwys Chwitffordd.

memorial to Thomas Pennant in Whitford Church

 

Cofeb i Thomas Pennant yn Eglwys Fair a Beuno, Chwitffordd


Prif Weithiau Thomas Pennant

1766

British Zoology

1769

Indian Zoology

1771

Synopsis of the Quadrupeds

1771

A Tour in Scotland (1769)

1773

Genera of Birds

1774

A Tour in Scotland and Voyage to the Hebrides (1772)

1778

Llanberis

A Tour in Wales

1781

History of the Quadrupeds (Revised ed. of ‘Synopsis’)

1782

The Journey from Chester to London

1784

polar bear

Arctic Zoology

1790

Of London

1793

The Literary Life of the late Thos. Pennant, by Himself

1796

The History of the Parishes of Whiteford and Holywell

1798 - 1800

Outlines of the Globe (4 vols.)

1801

A Tour from Downing to Alston Moor

1802

A Journey from London to the Isle of Wight

1804

A tour from Alston Moor to Harrowgate and Brimham Crags

1885

White Quarries in winter

Teithiau yng Nghymru (ed. John Rhys)

1948

A Tour on the Continent (1765)

 

Wedi ei ddarparu gan Norman Closs-Parry
Lluniau: Norman Closs-Parry or from '1800 Woodcuts by Thomas Bewick and his School'

Yn yr Adran hon:

» Thomas Pennant
» Bywgraffiad Thomas Pennant
» Teithiau cerdded
» Adborth
» Hanes
» Planhigion / Bywyd Gwyllt
» Adar
» Pysgod


Lleoliad a Cysylltiadau
Manylion Cyswllt

» Manylion Cyswllt
» Lleoliad / Cynllunydd Taith
» Ymholiad Ar-lein

Teithiau Cerdded
Sut i ddod o hyd i teithiau Pennant


I weld Teithiau cerdded Thomas Pennant
mewn map mwy

 

 

illustration

 

the squirrel

 

the short eared bat

 

the hare

the long tailed field mouse

the common cart horse

the stoat

plate 109

plate 109-b

plate 109c

 

plate 109 d